Llwyddiant Bore Coffi Blwyddyn 5
Fe wnaeth ein disgyblion ym Mlwyddyn 5 cynllunio a chynnal bore coffi er mwyn codi arian i elusen Macmillan. Roedd hi’n fore hynod o lwyddiannuas a llwyddon nhw godi dros £530!
Llwyddiant Ffair Ddiwydiant a Busnes Blwyddyn 6
Roedd ein hentrepreneuriaid ym Mlwyddyn 6 wedi llwyddo codi cyfanswm o £467.86 yn eu Ffair Ddiwydiant a Busnes.
Llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022
Daeth grwp dawnsio creadigol yr ysgol yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Diolch o galon i Enfys Emlyn a fu’n ei hyfforddi drwy gydol y flwyddyn.
Gwyliwch eu perfformiad anhygoel yma:
Dawns Creadigol – Blwyddyn 6 ac Iau
Hefyd, cafodd un o’n digyblion lwyddiant yn y gystadleuaeth delyn.
Gwyliwch ei berfformiad aruthrol yma:
Unawd Telyn – Blwyddyn 6 ac Iau
Gwyliwch ddisgybl arall ym Mlwyddyn 6 yn ennill yr ail wobr ar gyfer y gystadleuaeth ddawns Hip-hop/Stryd:
Dawns Hip-Hop/ Stryd – Blwyddyn 6 ac Iau
Llwyddiant ein tim pêl-droed
Ennillwyr Pencampwriaeth Pêl-droed Caerdydd a’r Fro, 2022 – Ysgol Pen-y-Garth!
Enillon nhw BOB gêm!