Hafan

 

Croeso cynnes i wefan Ysgol Gymraeg Pen-y-Garth

Rydym yn ymfalchio yn ein hysgol a’r teimlad o berthyn byddwn yn meithrin yn ein disgyblion. Rydyn yn gobeithio y cewch brofi’r naws gartrefol wrth bori drwy’r tudalennau.

Mae Ysgol Gymraeg Pen-y-Garth ar gyrion tref Penarth ac mae dalgylch yr ysgol yn ymestyn i Sili, Dinas Powys a Llandochau. Rydym yn darparu addysg o safon uchaf i dros 300 0 blant (gan gynnwys plant y Feithrin). Ysgol Pen-y-Garth yw’r unig ysgol Gymraeg yn yr ardal a rydyn yn rhan allweddol o’r gymuned lleol.

Credwn yn gryf mewn rhoi’r addysg orau posib i’n disgyblion gan sicrhau sgiliau llythrennedd a rhifedd cadarn. Yn ogystal â hyn, rhaid cofio bod ein plant yn ddisgyblion yr unfed ganrif ar hugain a mae Cymhwyster Digidol yn rhan allweddol o bob agwedd o’n cwricwlwm.

Rydyn yn darparu gwersi sydd yn gyffrous mewn amgylchedd ddiogel, gweithgareddau allgyrsiol eang a phrofiadau cyfoethog a fydd yn aros yn y cof. Bydd hyn yn sicrhau y bydd ein disgyblion, pan fyddant yn ein gadael ym mlwyddyn 6 i fynd i Ysgol Bro Morgannwg, yn ddysgwyr hollol ddwy-ieithog, annibynnol sy’n meddu ar yr awch a’r brwdfrydedd i fod yn ddysgwyr gydol oes.