Gwisg Ysgol

Mae safonau uchel o ran y wisg ysgol yn hynod o bwysig i ni yn Ysgol Gymraeg Pen y Garth. Mae dangos parch tuag at y rheolau a thuag at y wisg ysgol yn rhan hollbwysig o fywyd yr ysgol. Credwn fod cael gwisg ysgol yn sicrhau’r ymdeimlad o berthyn i Ysgol Gymraeg Pen y Garth a pherthyn i’n gilydd. Gofynnwyn yn garedig am eich cyd-weithrediad i sicrhau bod safon y wisg ysgol yn uchel.

 

Disgwylir i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Pen y Garth wisgo:

· Crys t polo coch

· Siwmper neu gardigan goch

· Trowsus llwyd, siorts llwyd neu sgert lwyd. Ceir wisgo ffrog gingam goch a gwyn yn yr haf

· Esgidiau lledr plaen du. Dydy trainyrs ddim yn rhan o’r wisg ysgol

· Dim gemwaith oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.