Mae cymuned ein hysgol gyfan wedi cydweithio i ffurfio ein gweledigaeth ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022. Trwy holiaduron rhieni, cyfarfodydd cyrff llywodraethu, pwyllgorau disgyblion (Dysgu Difyr) a dull staff ysgol gyfan, rydym wedi gwrando ac ymateb i lais pawb i greu ein gweledigaeth newydd, cyffrous.
Mae’r 4 diben yn rhan annatod o’n proses gynllunio ac yn sail i’n gweledigaeth newydd. Trwy themâu trawsgwricwlaidd, profiadau dilys ac arddulliau addysgu amrywiol, mae disgyblion yn cael eu meithrin i ymgorffori y 4 diben ar gyfer dysgu gydol oes. Mae addysgu a dysgu yn cwmpasu pob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad trwy themâu ac ymholiadau. Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, a’r egwyddorion cynnydd yn sail i’r holl gynllunio.
Mae’r themâu trawsgwricwlaidd:
• Addysg cydberthnasoedd a rhywioldeb (RSE).
• Hawliau Dynol
• Amrywiaeth
• Gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith
• Cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
a’r fframweithiau trawsgwricwlaidd o
• Llythrennedd
• Rhifedd
• Cymhwysedd Digidol
yn cael eu haddysgu drwy bob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad.
Bydd yr CGM gorfodol (crefydd, gwerthoedd a moeseg) hefyd yn cael ei addysgu trwy’r Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.
Rydym wedi bod yn gweithio gydag ysgolion Cymraeg eraill y clwstwr mewn grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad, a thimau o fewn ein hysgol i nodi a sicrhau dilyniant drwy’r Egwyddorion Cynnydd gorfodol cenedlaethol. Byddwn fel ysgol yn sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn cael eu cefnogi trwy eu taith ddysgu unigol yn ddyddiol. Bydd asesu yn rhan o’n dysgu bob dydd lle bydd disgyblion yn trafod gydag athrawon pa mor dda y maent yn gwneud a sut y gellir eu cefnogi i gynllunio ar gyfer y camau nesaf yn eu dysgu.
Byddwn yn adolygu ein Cwricwlwm yn barhaus gyda mewnbwn disgyblion, staff, llywodraethwyr, rhieni a llais y gymuned ehangach. Bydd y broses monitro, gwerthuso ac adolygu hefyd yn rhan o’r Cynllun Gwella Ysgol a bydd datblygiad proffesiynol pwrpasol yn cefnogi staff gyda’r broses. Byddwn yn defnyddio’r Model Meddwl Dylunio i gefnogi ein proses adolygu.