Dilynwch ni
Llwyddiannau:
2017-18 cododd y CRhA dros £10k ac ariannu y canlynol
- Llyfrau Cymraeg i’r Adran Iau £ 1,500
- Marcio’r maes parcio ar gyfer diogelwch plant £ 700
- Arian i’r athrawon ei wario ar gwricwlwm Donaldson £ 1,600
- Cyfraniad o 1/3 tuag at wefan newydd yr ysgol £ 1,700
- Celfi awyr agored newydd £ 1,700
- Adnewyddu gliniaduron £ 1,000
- Theatr ginetig ar gyfer blynyddoedd 2-6 £ 400
- Llyfrau a geiriaduron i’r plant sy’n gadael Blwyddyn 6 £ 450
- Rydym hefyd wedi awdurdodi prynu bleinds ar gyfer y neuadd i helpu gyda rheoli tymheredd a gwelededd y taflunydd (tua £ 2,000)
Ein hegwyddorion
- Pawb i gymryd rhan – ym mha ffordd bynnag maen nhw’n gallu yn ariannol ac o ran amser
- Defnyddio cryfderau, sgiliau ac adnoddau personol a gwerthfawr ein teuluoedd
- Hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg tu fewn a thu allan i’n hysgol
Helpwch ni i godi fwy o arian
Rhoddion
Er mwyn inni allu cynnal llai o ddigwyddiadau o ansawdd uchel, canolbwyntio’n fwy ar y gymuned a rhoi cyfle i bobl gyfrannu pan na allant fynychu digwyddiadau rydym wedi sefydlu tudalen MyDonate.
Gallwch rhoi yn aml neu unwaith. Gallwch hefyd ein galluogi i hawlio cymorth rhodd ar eich rhodd.
Easy Fundraising
Gallwch siopa ar-lein a rhoi rhodd i’r CRhA heb wario ceiniog yn ychwanegol, cofrestrwch gyda Easy Fundraising
Cysylltwch â ni
Rydym yn croesawi eich adborth, awgrymiadau a sylwadau. Diolch yn fawr!