Ti a Fi

Ydych chi’n chwilio am ddosbarth newydd gyda’ch plentyn? Mae lle i fwy o deuluoedd yn Ysgol Gymraeg Pen-y-Garth Ti a Fi ddydd Iau 9:15-10:15. Mae gennym ni chwarae rhydd a chrefft am yr hanner awr gyntaf ac yna caneuon yn Gymraeg. Addas ar gyfer plant 0-4 oed a’u rhieni/gofalwyr. Mae’n sesiwn heb gost ac nid oed angen archebu. (Amser tymor yn unig). Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Rhiannon: Rhiannon.James@meithrin.cymru