Hawliau Plant

Yn Ysgol Pen -y-Garth rydym yn anelu tuag at fod yn ‘Ysgol sy’n Parchu Hawliau Plant’. Yn y flwyddyn newydd (Ionawr 2023) rydym eisiau lawnsio Hawliau Plant ar ddraws yr ysgol gyfan a wedyn mynd am y ‘Wobr Efydd Ysgolion sy’n Parchu Hawliau Plant’. Mae’r plant yn barod wedi cael nifer o brofiadau am hawliau plant ar ddraws yr ysgol ac rydym yn awyddus i weithio gyda’r CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig a’r Hawliau’r Plentyn) i fod yn Ysgol sy’n Parchu Hawliau Plant.

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn sicrhau bod holl blant a phobl ifanc Cymru yn dod i wybod am eu hawliau. Mae’r hawliau hyn yn bethau sydd angen ar blant a phobl ifanc i fod yn ddiogel, yn iach ac yn hapus. Mae gan y Cenhedloedd Unedig restr o’r holl hawliau sydd gan blant. Enw’r rhestr hon yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, neu CCUHP yn fyr.

Beth yw eich hawliau?

Deall eich hawliau

Gwefannau defnyddiol:

Hafan – Children’s Commissioner for Wales (complantcymru.org.uk)

The Rights Respecting Schools Award

UN Convention on the Rights of the Child