Ein Gweledigaeth

 

Ein Harwyddair:

‘Law yn Llaw, Llwyddiant a Ddaw’

Mae Pen y Garth yn gymuned hapus lle rydym yn cefnogi ein gilydd ac mae llais pawb yn cael ei glywed. Mae hapusrwydd, lles a llwyddiant pawb yn flaenoriaeth i ni.

Gyda’n gilydd, rydym yn;

  • gofalu am a pharchu ein gilydd
  • dathlu ac yn falch o’n hunaniaeth, cynefin, diwylliant a’n hiaith
  • caru’r hyn sy’n ein gwneud ni’n debyg ond hefyd yn wahanol
  • magu hyder wrth weithio a chwarae
  • frwdfrydig ac yn chwilfrydig
  • tanio’r dychymyg a chreadigrwydd
  • anelu am y sêr ymhopeth a wnawn

Ein gwerthoedd:

Parch, Cymreictod, Hapusrwydd