Clwb Brecwast

Mae gennym Glwb Brecwast am ddim (8yb-8:35yb) sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a gall pob plentyn fynychu hwn unwaith y maent yn bump oed, ond rhaid cofrestru ymlaen llaw. Prif fwriad y clwb yw i sicrhau fod pob plentyn yn cael brecwast iachus ar ddechrau’r dydd.

I gofrestru’ch plentyn, cysylltwch gyda ein Rheolwr Busnes, Mrs Blake.