Siarter Iaith

 

Beth yw’r Siarter Iaith?

Nod y Siarter Iaith yw annog plant i siarad Cymraeg yn amlach mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am arwain y Siarter, ac yn eu geiriau nhw, ‘Mewn gair, ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau’ yw’r nod. Dros y tair blynedd nesaf, bydd pob plentyn ym mhob ysgol Gymraeg yn cael cyfle i ennill gwobr efydd, arian ac aur. Mae hyn yn dibynnu ar faint o Gymraeg maen nhw’n ei siarad o ddydd i ddydd – mewn sefyllfaoedd amrywiol yn yr ysgol a’r gymuned. Mae’r Siarter Iaith yn gyfle i bawb yng nghymuned yr ysgol chwarae eu rhan wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg – cyngor yr ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn o’r iaith.

Beth yw manteision y Siarter Iaith?

Rydych chi eisoes wedi dewis addysg Gymraeg i’ch plentyn ac yn deall manteision medru siarad dwy iaith. Mae cywirdeb iaith yn holl bwysig yn nhermau cyrhaeddiad addysgol plant. Y ffordd orau o sicrhau hyn wrth eich bod chi, fel cymuned yr ysgol, yn annog eich plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg ar bob cyfle posibl.

Rydym ni yn gyffrous iawn i weithio gyda phob rhiant i gynyddu faint o Gymraeg sy’n cael ei siarad ym mhob ysgol. Edrychwch mas am ddigwyddiadau cyffrous yn fuan iawn!