Hafan

Croeso cynnes i chi i Ysgol Gymraeg Pen y Garth!

Braint oedd cael dechrau fel pennaeth Ysgol Pen y Garth yn Ionawr 2023. Fe wnes i addo y byddwn yn gweithio’n ddiwyd er mwyn sicrhau’r gorau posib i’r disgyblion a staff.

Ein nod yn Ysgol Gymraeg Pen y Garth yw bod pawb yn teimlo’n hapus, yn ddiogel ac yn bwysig yn yr ysgol. Mae sicrhau ein bod yn dathlu ein gilydd yn bwysig i ni, rydym yn dilyn y dywediad “Derbyn beth sy’n debyg…Dathlu beth sy’n wahanol”.  Rydym yn rhoi ffocws cryf ar berthnasoedd yn yr ysgol a chredwn yn gryf bod perthynas yn sail i bopeth rydym yn gwneud.

Mae ein disgwyliadau ni yn uchel o bob plentyn a rydym yn anelu at y safonau uchaf ym mhopeth rydym yn gwneud.

Mae’r arweinwyr Cwricwlwm yn gweithio’n galed i gynllunio profiadau, gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr a diddorol i’n disgyblion. Mae gweithgareddau all-gyrsiol hefyd yn bwysig iawn i ni. Mae ein staff a disgyblion wedi profi cryn dipyn o lwyddiant ar y caeau Chwaraeon ac ar lwyfan yr Eisteddfod gyda Dawns, Canu a Chelf.

Ein bwriad fel ysgol yw meithrin a datblygu pob disgybl fel unigolion hyderus sy’n falch o’u hysgol, eu hiaith a’u diwylliant.  Annogwn ein disgyblion i fod yn gwrtais, yn barchus ac yn ddiolchgar ar bob achlysur.

Mae lles disgyblion a staff yn bwysig iawn ym Mhen y Garth. Clustnodwn amser ar gyfer sicrhau bod lles staff a disgyblion yn flaenoriaeth. Mae gennym ddiwrnod lles bob hanner tymor ble mae’r disgyblion a staff yn dysgu ac yn datblygu sgiliau hanfodol a hefyd yn datblygu’r berthynas rhyngddynt hyd yn oed yn fwy.

Mae croeso cynnes i chi ffonio’r ysgol i drefnu ymweld â ni! Croeso cynnes i Ben y Garth!

Miss Becca Pugh

Pennaeth